Fel gweithiwr datblygu iechyd meddwl, mae Anneline yn cefnogi pobl trwy hyfforddiant a chyngor.
Gan weithio gyda Gweithredu Gorllewin Cymru Dros Iechyd Meddwl, mae’n cynnig mynediad at wybodaeth annibynnol a diduedd trwy weithdai, cynadleddau a digwyddiadau hyfforddi, cylchlythyrau, taflenni, llyfrau a fideos.
Mae hi a’i chydweithwyr eisiau gwella safon darpariaeth iechyd meddwl yng Ngorllewin Cymru.
Dywed: “Rydyn ni’n helpu pobl â chyflyrau iechyd meddwl mewn ffyrdd ymarferol ac emosiynol, fel unigolyn neu o fewn grŵp. Rydyn ni wir yn helpu mewn cymaint o wahanol ffyrdd!”