Mae Charlotte yn siarad â phobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd ac yn asesu eu hanghenion cymorth.
Gan weithio gyda ‘Cymorth i Ddioddefwyr’ fel swyddog gofal dioddefwyr, mae’n cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol, ac yn darparu gwybodaeth ac eiriolaeth.
Meddai: “Rydyn ni’n hygyrch i bob dioddefydd, ac yn teilwra’n gwasanaethau i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed ac anodd eu cyrraedd.
“Rydyn ni’n helpu unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan drosedd – nid yn unig dioddefwyr, ond eu ffrindiau, eu teuluoedd ac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.
“Rydyn ni’n darparu cymorth emosiynol sy’n helpu i ailadeiladu hyder ac annibyniaeth dioddefwyr.”