Jayne Witte

6

Mae Jayne ar y rheng flaen o ran cymorth i ddioddefwyr – mae’n cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Fel gweithiwr cymorth ar gyfer Gwasanaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed-Powys, a ddarperir gan Gwalia, mae Jayne yn cyflawni amrediad o rolau hollbwysig o’i swyddfa yng Ngheredigion. Dywed: “Mae’n bwysig bod dioddefwyr yn teimlo’u bod nhw’n cael eu clywed a bod rhywun yn gwrando’n astud ar yr hyn maen nhw’n dweud.

“Rwy’n cynnig amrediad o wasanaethau, o helpu rhywun i brisio teledu cylch cyfyng i fod yn ffynhonnell gyngor os yw dioddefydd eisiau siarad. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwasanaeth yn rhoi’r hyder i ddioddefwyr deimlo’n ddiogel yn eu cymunedau a’u cartrefi, a rhoi’r grym i ddioddefwyr eraill adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

Mwy o Arwyr Cymunedol