Rôl Joanna yw rhoi cymorth i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Hefyd, mae’n cynnal grwpiau datrys problemau sy’n cynnwys sawl sefydliad.
Gan siarad am ei gwaith fel cydlynydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, dywed: “Mae’n sicrhau canlyniadau llwyddiannus ar gyfer dioddefwyr gan ddefnyddio cynlluniau gweithredu a luniwyd gan y grŵp yn rhoi boddhad i ni.
“Mae’r grwpiau’n rhoi cyfle i asiantaethau rannu gwybodaeth ac arbenigedd. Oherwydd ein bod ni’n cynnal y grwpiau ledled y rhanbarth, medwn rannu dulliau asiantaethau eraill ar gyfer ymdrin ag achosion anodd.”