Maureen Hand

Mo pic

Mae Maureen yn cefnogi pobl ifainc sydd wedi dioddef trosedd fel rhan o’i rolau hollbwysig fel gofalwr ac uwch weithiwr ieuenctid ardal. Yn ei gwaith ieuenctid, mae’n mynd i’r afael ag anghenion lleol.

 hithau wedi’i lleoli ym Mhowys, mae’n annog pobl ifainc i ddatblygu sgiliau i gynnig dyfodol disgleiriach iddynt.

Dywed: “Mae gwrando ar bobl ifainc wrth galon yr hyn rydyn ni’n gwneud.”

Fel gofalwr, mae’n cefnogi unigolyn ifanc sydd wedi dioddef aflonyddu a thrais oherwydd rhywioldeb a hil.

Dywed: “Mae gweld pobl ifainc yn magu hyder yn deimlad arbennig.”

Mwy o Arwyr Cymunedol