Dyma staff y Cwtsh Cymorth sy’n medru’ch arwain at y cymorth sydd angen arnoch.
Bev Gweithiwr Achos (Achosion Cymhleth)
- Cam-drin sylweddau, cam-drin domestig a helpu pobl ifainc i gael gwaith ac addysg yw fy nghefndir i. Mae fy swyddi wedi cynnwys arweinydd tîm, gweithiwr cymorth ac ymgynghorydd hyfforddi.
Carly Swyddog Gofal Dioddefwyr
- Rwyf wedi gweithio gyda phlant ag anawsterau ymddygiadol ac mae gen i brofiad o weithio gyda throseddwyr â phroblemau cam-drin sylweddau ac iechyd meddwl.
Carol Gweithiwr Achos (Achosion Cymhleth)
- Mae fy nghefndir yn cynnwys gweithio gyda Gwasanaeth Sifil y Weinyddiaeth Amddiffyn ac asiantaethau cyfiawnder troseddol lle’r oeddwn i’n gysylltiedig ag ymgysylltu cymunedol a thystion drwy’r broses cyfiawnder troseddol.
Claire Swyddog Gofal Tystion
- Rwyf wedi gwirfoddoli gyda sefydliad sy’n cefnogi rhieni a phlant sy’n ei chael hi’n anodd addasu i fywyd teuluol. Hefyd, mae gen i brofiad o weithio gyda phlentyn sydd ag ymddygiad heriol.
Natalie Swyddog Gofal Tystion
- Astudiais y gyfraith yn y brifysgol cyn teithio a gwirfoddoli tramor gyda phlant. Nôl yn y DU, gweithiais gyda phlant trawmateiddiedig mewn gofal am bron i bum mlynedd.
Cysylltwch â ni