Mae rôl Paul fel gweithiwr cymorth yn cynnwys helpu pobl i ddeall eu dewisiadau ar gyfer mynd i’r afael â’r mater.
Mae’n darparu cymorth ymarferol i alluogi pobl i ddiogelu eu hunain a lleihau digwyddiadau ailadroddus.
Meddai: “Mae’r gwasanaethau rydyn ni’n cyflenwi’n hyblyg ac yn ymatebol a byddant yn lleihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer defnyddwyr ein gwasanaeth.
“Rydyn ni’n gobeithio sicrhau y bydd y dioddefwyr yn dechrau teimlo’n ddiogel o fewn eu cymuned – ac yn hyderus y gallant adrodd am unrhyw ddigwyddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda’n cymorth ni.”