Bydd Gwasanaeth Dioddefwyr a Thystion Goleudy yn cynnig:
- Pwynt Cyswllt Sengl gydol taith y dioddefwr o’r tro cyntaf yr adroddwyd am y digwyddiad wrth yr Heddlu, gydol yr ymchwiliad a’r proses cyfiawnder troseddol a thu hwnt.
- Cefnogaeth i bob dioddefwr trosedd sydd angen cymorth os yw’r digwyddiad wedi cael ei adrodd i’r Heddlu ai beidio.
- Canolbwyntio ar y sawl sydd wedi dioddef fwyaf gan drosedd sef; dioddefwyr trosedd difrifol, dioddefwyr mynych, y rhai sydd mwyaf agored i niwed a’r rhai sydd yn cael eu dychrynu fwyaf.
Hyfforddir Staff Goleudy i ddarparu:
- Safonau uchel o ofal i ddioddefwyr a thystion yn y system cyfiawnder troseddol.
- Cefnogaeth reolaidd a chyfrinachol drwy alwadau ffôn, neges destun neu e-bost i bob dioddefwr a thyst sydd yn gofyn am gymorth os yw wedi adrodd am drosedd ai beidio.
- Mynediad i gefnogaeth emosiynol drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ymweliadau gartref. Bydd y gwasanaethau yn cael eu teilwra i ateb anghenion yr unigolyn.
- Cymorth ymarferol a all gynnwys cyfeirio at bartneriaethau eraill ac asiantaethau o fewn eich cymuned.
- Cefnogaeth i ddioddefwyr trosedd ifanc gyda chaniatâd rhieni neu warchodwyr.
- Eiriolaeth – arweiniad a chefnogaeth i gynorthwyo dioddefwr tra bo’n gwella a sicrhau ei fod yn cael ei hawliau.
- Arweiniad am gymryd rhan mewn cyfiawnder adferol sydd yn cynnig cyfryngiad rhwng dioddefwyr a throseddwyr.
- Cefnogaeth a chymorth am Geisiadau ar gyfer cael iawndal am anafiadau oherwydd trosedd (CICA).
- Rhoi grym drwy barhad cefnogaeth gan ein tîm ymroddgar.
- Am wybodaeth bellach am yr hyn y gallwch ei disgwyl gweler y Pecyn Gwybodaeth i Ddioddefwyr
Gallwch hefyd ddod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau lleol a chenedlaethol a all eich helpu trwy ymweld â Dewis Cymru.